Grŵp Trawsbleidiol Cymru – Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
Dydd Mawrth, 17 Ionawr 2023, 12:30 – 13:30: Microsoft Teams (Ar-lein)
COFNODION
YN BRESENNOL:
Enw cyntaf |
Cyfenw |
Sefydliad |
Cofnodion |
Edward |
Woodall |
Cymdeithas Siopau Cyfleustra |
EW |
Daniel |
Askew |
Cymdeithas Siopau Cyfleustra |
DA |
Janet |
Finch-Saunders |
AS dros Aberconwy |
JFS |
Robin |
Lewis |
Staff cymorth Vikki Howells AS |
RL |
Vikki |
Howells |
AS dros Gwm Cynon |
VH |
Russell |
George |
AS dros Sir Drefaldwyn |
RG |
Mark |
Isherwood |
AS dros Ogledd Cymru |
MI |
Ryland |
Doyle |
Staff cymorth Mike Hedges AS |
RD |
1. Cyflwyniad
Croesawodd VH y rhai a fu'n bresennol.
2. Adolygiad yr Adroddiad Blynyddol
Crynhodd VH gynnwys yr adroddiad blynyddol i’r aelodau.
3. Ethol swyddogion
Etholwyd EW yn aelod o'r Grŵp Trawsbleidiol ar Siopau Bach. Tynnwyd enw Steve Dowling oddi ar restr aelodau y grŵp trawsbleidiol.
Enwebwyd ac etholwyd Vikki Howells gan EW a RG i barhau â'i rôl fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Siopau Bach. Derbyniodd VH yr enwebiad.
Enwebwyd ac etholwyd Russell George gan EW a VH fel Is-gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Siopau Bach. Derbyniodd RG yr enwebiad.
Enwebwyd ac etholwyd EW gan VH a RG fel Ysgrifennydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Siopau Bach. Derbyniodd EW yr enwebiad.
4. Adolygu Gweithgareddau a Chynllun Gwaith y Grŵp ar gyfer 2023
Rhoddodd VH grynodeb o weithgareddau’r grŵp, gan ddiolch i aelodau am fynychu cyfarfodydd blaenorol, ac amlygodd gyfraniad y grŵp o ran codi materion sy'n effeithio ar siopau bach.
Rhoddodd EW drosolwg o weithgareddau’r grŵp ar gyfer 2023 a chytunodd y grŵp ar y materion polisi y gellid o bosib eu codi mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.
5. Cloi’r cyfarfod
Diolchodd VH i'r aelodau am fynychu.